Y Pwyllgor Safonau
Ymddygiad/ Standards of Conduct Committee
SoC(5)-03-16 P1
Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad
SoC(5)-03-16 Papur 1
15 Tachwedd 2016
Ymchwiliad i lobïo – Nodyn gan Gerard Elias CF, y Comisiynydd Safonau
1. Yn ei gyfarfod ar 13 Medi 2016, o dan eitemau 4 a 5 ar yr agenda, gofynnodd y Pwyllgor am fy sylwadau ar feysydd posibl y gallai’r Pwyllgor ymgynghori arnynt mewn perthynas â’i adolygiad o’r trefniadau sydd ar waith ar gyfer lobïo.
2. Yng ngoleuni’r ffaith bod deddfwriaeth yn ddiweddar mewn perthynas â lobïo, rwyf wedi ymgynghori’n uniongyrchol, er am fyr dro, ag adrannau cyfatebol yn San Steffan ac yn yr Alban.
3. Yn Nhŷ’r Cyffredin, cafodd y Ddeddf Tryloywder Lobïo, Ymgyrchu gan Grwpiau Di-blaid a Gweinyddu Undebau Llafur Gydsyniad Brenhinol yn 2014 ac fe ddaeth i rym yn llawn ym mis Mehefin eleni. I’r graddau y mae’n effeithio ar weithgarwch lobïo, ymddengys mai at y rhai sy’n lobïo Gweinidogion Llywodraeth neu uwch-weision sifil y mae’r Ddeddf wedi cael ei hanelu.
4. Penodwyd Cofrestrydd annibynnol i sefydlu a “phlismona” y gofrestr. Mae cost sylweddol i gwmnïau neu unigolion o ran cofrestru. Ni chafwyd effaith ar swyddfa’r Comisiynydd Safonau hyd yn hyn, nid yn lleiaf oherwydd, fel yng Nghymru, nid oes gan y Comisiynydd awdurdodaeth dros ymddygiad Gweinidogion yn gweithredu fel y cyfryw.
5. Pe bai’r Pwyllgor yn ystyried argymell cofrestr statudol o lobïwyr, yn ddi-os byddai goblygiadau sylweddol o ran adnoddau. Mae’n bosibl y gall tystiolaeth y Cofrestrydd newydd yn Llundain daflu goleuni ar y ffigurau’n debygol.
6. Yn yr Alban, cafodd y Ddeddf Lobïo (yr Alban) 2016 Gydsyniad Brenhinol ym mis Ebrill. Yn y bôn, mae’n cwmpasu lobïo am dâl yn unig, ond mae Adran 6 yn ei gwneud yn ofynnol cofrestru yn fanwl unrhyw gyfarfod lobïo, gan gynnwys personél a diben y cyfarfod.
7. Unwaith eto, gan mai i Glerc y Senedd y rhoddwyd y dasg o gynnal, diweddaru a phlismona’r gofrestr, mae’r gost heb os yn sylweddol. Mewn perthynas â chostau sefydlu a chynnal system o’r fath yng Nghymru, gall profiad diweddar Clerc y Senedd (neu’r sawl a benodwyd yn ei Swyddfa), felly, fod yn werthfawr yn hyn o beth.
8. Efallai ei bod yn werth sôn am y ffaith i Lywodraeth yr Alban fabwysiadu Bil a ddechreuodd fel Bil Aelod preifat. Mae’n ymddangos, efallai, fod Bil sydd â’r bwriad o ddarparu gwybodaeth am weithgareddau Gweinidogion yn annhebygol o lwyddo heb gefnogaeth y Llywodraeth. Hefyd, mae’n ymddangos mai nod y ddeddfwriaeth yn yr Alban yw rheoleiddio lobïo am dâl, gan wahardd y rhan fwyaf o lobïo ar ran elusennau o ganlyniad.
9. Ymhellach, dichon y bydd y Pwyllgor am wybod ei bod yn ymddangos mai bwriad y Gofrestr yn y ddwy ddeddfwrfa yw ategu’r trefniadau i Weinidogion Llywodraeth ddatgelu yn wirfoddol ac yn rheolaidd â phwy maent yn cyfarfod trwy, er enghraifft, ddatgelu dyddiaduron neu gofrestr o gyfarfodydd gweinidogol.
10. Heb awgrymu bod yr hyn a adroddais bedair blynedd yn aros yn ddilys o reidrwydd, mentraf atodi rhannau o’m Hadroddiad dyddiedig 1 Hydref 2012. Gallaf ddweud er hynny na ddaeth dim cwynion i’m llaw mewn perthynas ag unrhyw agwedd ar lobïo yn y Cynulliad Cenedlaethol.
Gerard Elias CF
Y Comisiynydd Safonau
Atodiad
“Fy nghanfyddiadau
Gan ystyried y canlynol yn benodol:
· Mai barn unfryd pawb a gymerodd ran yn yr ymgynghoriad sy’n gweithredu yng Nghymru a/neu yn y Cynulliad Cenedlaethol yw bod arferion lobïo, yn eu hanfod, yn dryloyw a’u bod yn cael eu plismona a’u rheoleiddio’n ddigonol;
· bod y Rheolau Sefydlog yn darparu ar gyfer Cofrestru a Datgan “rhoddion, lletygarwch, buddion materol neu fantais faterol” o unrhyw fath i‟r Aelod, partner yr Aelod neu blentyn dibynnol i‟r Aelod, ac ar lefel (tua £279) sylweddol is na Seneddau eraill yn y Deyrnas Unedig, heblaw am un, ac yn uwch, ond yn unol â‟r lefel yng Nghynulliad Gogledd Iwerddon;
· bod Rheol Sefydlog 2 Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn benodol yn gwahardd lobïo am dâl neu gydnabyddiaeth (2.8) ac yn darparu ar gyfer yr hawl i wahardd Aelod os bydd yn torri’r rheolau (2.10/11);
· nad oes cwyn yn ymwneud â lobïo wedi’i gwneud yn erbyn Aelod mewn blynyddoedd diweddar – neu, cyn belled ag y gwyddai’r Comisiynydd, ers sefydlu’r Cynulliad Cenedlaethol
· bod y gyfraith droseddol yn darparu ar gyfer derbyn, neu roi, rhoddion neu lwgrwobrwyon gan, neu i, bobl mewn swyddi cyhoeddus mewn modd amhriodol;
a chan gofio
· bod angen cynnal diwylliant ‘agored’ y Cynulliad Cenedlaethol ac argaeledd ei Aelodau, fel nad yw’r broses ddemocrataidd yn cael ei llyffetheirio;
· bod angen cynnal tryloywder ac argaeledd rhwydd i’r cyhoedd, y bobl sy’n gwneud penderfyniadau a phobl eraill sydd â diddordeb o ran canfod beth sy’n dylanwadu ar eu cynrychiolwyr etholedig; a
· bod angen cymesuredd, o ran defnyddio adnoddau a’r baich ar Aelodau Cynulliad a lobïwyr o ran datrys unrhyw broblemau canfyddedig yn y maes hwn,
Rwy’n gadarn o’r farn bod y trefniadau presennol sydd yn eu lle ar gyfer rheoleiddio lobïo, fel y maent yn berthnasol i Aelodau’r Cynulliad Cenedlaethol, yn eu hanfod yn ddigon cadarn ac addas i’r diben.
“Efallai y byddai’r Pwyllgor yn dymuno ystyried mesur ymarferol a chymesur posibl, sef argymell bod y diwydiant yng Nghymru (yn cynnwys e.e. lobïwyr proffesiynol a sefydliadau elusennol) yn gwirfoddoli i gyhoeddi (mewn cofrestr neu drwy broses dderbyniol arall) bob chwarter/hanner blwyddyn neu yn flynyddol, y wybodaeth ganlynol, neu rannau ohoni:
· Enw’r sefydliad lobïo;
· ei aelodau/staff
· ei gleientiaid
· ei feysydd diddordeb
· yr Aelodau Cynulliad y cysylltwyd â hwy
· faint o arian sydd wedi’i wario ym mhob maes lobïo eang